top of page
IMG_5762_edited.jpg

ALBWM NEWYDD

Bio

Aeron Pughe a’r Band.

Yn hanu o fryniau gleision Sir Drefaldwyn, rhywle rhwng ‘Uffern a Darowen’, daw Aeron Pughe a’i ganeuon ‘honci-tonc’ bachog, gwreiddiol am wirioneddau bywyd; o’r cyfarwydd i’r swreal. Cawn ein tywys ar daith gerddorol gan un o wynebau cyfarwydd S4C i ganfod ateb i rai o gwestiynau mawr bywyd, a’r ateb yn aml yn llechu yn ngwaelod y botel gwrw nesa’. Wrth uno â’r ddeuawd Americana adnabyddus ‘Truckstop Honeymoon’, sef Mike West ar y banjo, gitâr a’r mandolin a Katie West ar y bas dwbl, yn ogystal â llais hudolus Sara Meredydd a’i harmoniau swynol, ceir perfformiadau bywiog ac egniol yn cynnig arlwy eang o ganeuon teimladwy, doniol a hiraethus. Trwy gyfuno sain ‘bluegrass’, gwerinol a chanu gwlad, fe’n cyflwynir ni i genre newydd o ganu gwreiddiol a chyffrous yr Ameri-Cymreig.

Aeron Pughe in the Studio
Gyrrwch neges i Aeron Pughe

Diolch!

Ffotograffiaeth gwefan gan Katie West

bottom of page